Bedřich Smetana

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bedřich Smetana

Cyfansoddwr o wlad Tsiec oedd Bedřich Smetana (Loudspeaker.svg ynganiad ?/i ) (2 Mawrth 1824 - 12 Mai 1884). Ei waith mwyaf adnabyddus yw'r gerdd symffonig Ma Vlast ("Fy Mamwlad").

Ganed ef yn Litomyšl, Bohemia, yr adeg honno yn rhan o Ymerodraeth Awstria. Bu'n astudio'r piano a'r feiolin er yn ieuanc, ac aeth i astudio cerddoriaeth ym Mhrag. Yn 1848 cafodd arian gan Franz Liszt i sefydlu ei ysgol gerddoriaeth ei hun.

Yn 1856, symudodd i Gothenburg, Sweden, lle bu'n dysgu a rhoi perfformiadau. Agorodd ysgol gerddoriaeth newydd ym Mhrâg yn 1863, ac yn 1866 cyhoeddodd ei opear gomig Y briodasferch a gyfnewidiwyd. Erbyn 1874 roedd wedi mynd yn fyddar. Parhaodd i gyfansoddi; ysgrifennodd Má vlast wedi iddo fynd yn fyddar. Yn 1875 symudodd i bentref Jabkenice. Bu farw yn 1885 a chladdwyd ef ym mynwent Vyšehrad ym Mhrag.

Ei waith mwyaf adnabyddus efallai yw'r gyfres symffonig ramantaidd Má Vlast ("Fy Mamwlad"), sy'n cynnwys y darn Vltava, sy'n disgrifio cwrs afon Vltava ac sy'n fod i gynrychioli ysbryd Bohemia. Mae'n un o ddarnau cerddorol byr mwyaf adnabyddus y 19eg ganrif.

Cafodd ei waith ddylanwad mawr ar ei gydwladwr Antonín Dvořák.