Barloworld
| Barloworld | ||
![]() |
||
| Gwybodaeth y Tîm | ||
|---|---|---|
| Côd UCI | BAR | |
| Sail | ||
| Sefydlwyd | 2003 | |
| Disgyblaeth(au) | Ffordd | |
| Statws | Proffesiynol Cyfandirol | |
| Personél Allweddol | ||
| Rheolwr Cyffredinol | Claudio Corti | |
|
|
||
Mae Barloworld (Côd Tîm UCI: BAR) yn dîm seiclo Proffesiynol Cyfandirol UCI. Er eu bod wedi eu seilio yn y Deyrnas Unedig, cysidrir hwy i fod yn dîm o Dde Affrica.[1] Mae'n yn cymryd rhan yn rasus Cylchdaith Cyfandirol UCI a phan caent eu dewis ar hap, mewn rasus TaithPro UCI. Rheolir hwy gan Claudio Corti gyda Valerio Tebaldi, Christian Andersen a Alberto Volpi yn rhoi cymorth fel directeur sportif. Reidwyr mwyaf blaengar Barloworld ydy Robert Hunter o Dde Affrica a Mauricio Soler o Golombia.
Cefnogwr arianol y tîm ydy Barloworld, sy'n gwmni rheoli brand diwydiannol. Mae'r tîm yn reidio fframiau Cannondale gyda darnau gyrru-cadwyn Campagnolo.
Cystadleuodd Tîm Barloworld yn Tour de France 2007 ar ôl derbyn safle ar hap, gan wneud Barloworld y tîm cyntaf a seilir ym Mhreydain i gystadlu yn y Tour de France ers i ANC-Halfords Cycling Team gystadlu yn Tour 1987.
Ychydig ddyddiau wedi diwedd y tîm, bu farw aelod o'r tîm, Ryan Cox wedi i rhydweli fyrstio yn ei goes.
Cynnwys |
2007 [golygu]
Canlyniadau [golygu]
- 1st, Cystadleuaeth y Mynyddoedd, Tour de France, (Mauricio Soler)
- 1st, Cam 9, Tour de France, (Mauricio Soler)
- 1st, Cam 11, Tour de France, (Robert Hunter)
- 1st, Volta ao Distrito de Santarém, (Robert Hunter)
- 1st, Arweinydd presennol y Cystadleuaeth y Timau, UCI Africa Tour 2006-2007
