Barcud Coch
Oddi ar Wicipedia
| Barcud Coch | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Falconiformes |
| Teulu: | Accipitridae |
| Is-deulu: | Milvinae |
| Genws: | Milvus |
| Rhywogaeth: | M. milvus |
| Enw deuenwol | |
| Milvus milvus (Linnaeus, 1758) |
|
Aderyn ysglyfaethus mawr yw'r Barcud Coch (hefyd Barcut, Barcutan neu Bod). Ceir yn Ewrop mewn coetir, tir amaeth a'r bryniau. Roedd e'n gyffredin ym Mhrydain tan y 19eg ganrif. Aeth yn brin gyda ond ychydig barau yng Nghymru oherwydd helwriaeth trwm ac i wenwyn fynd i't gadwyn fwyd o ganlyniad i'r dulliau modern o amaethu. Mae'n cynyddu bellach a mae'n cael ei ail-gyflwyno i Loegr a'r Alban.
Mae'r Barcud Coch yn frowngoch gyda phen gwelw a darn gwyn o dan yr adain. Mae'r adenydd yn hir a chul ac mae'r cynffon yn fforchog.