Baner NATO
Oddi ar Wicipedia
Maes glas tywyll gydag arwyddlun rhosyn cwmpawd yn ei ganol â phedair llinell wen yn rheiddio ohonno yw baner NATO. Seren bedair-pwynt gwyn a glas tywyll dros gylch gwyn yw'r arwyddlun. Dyluniwyd gan aelod o Staff Rhyngwladol y sefydliad, a mabwysiadwyd gan Gyngor Gogledd yr Iwerydd ar 14 Hydref 1953.
Mae gan y faner y dimensiynau canlynol:
- Hyd: 400
- Lled: 300
- Seren: 150
- Diamedr y cylch y tu ôl i'r seren: 115
- Gofod rhwng y seren a'r llinellau gwyn: 10
- Gofod rhwng ymyl y faner a'r llinellau gwyn: 30
Ffynhonnell [golygu]
- (Saesneg) NATO: The official emblem of NATO