Baner Cuba
Oddi ar Wicipedia
Mae gan faner Cuba pum stribed llorweddol, tri'n las a dau yn wyn, gyda thriongl coch â seren wen yn ei ganol yn yr hoist. Dyluniwyd y faner yn 1848 ar gyfer y mudiad rhyddhad, oedd yn ceisio ennill annibyniaeth ar Sbaen a chael Cuba'n dalaith Americanaidd. Roedd "y Seren Unig" (La Estrella Solitaria) yn cynrychioli seren arall i'w hychwanegu i faner yr Unol Daleithiau. Daw'r triongl o'r symbol Masonig am gydraddoldeb, tra bo'r pum stribed yn cynrychioli'r pum talaith oedd gan Cuba ar y pryd. Daeth Cuba dan rym yr UD yn 1899, a mabwysiadwyd y faner yn swyddogol ar 20 Mai, 1902 pan ddaeth y wlad yn annibynnol (nad oedd Cuba byth yn dalaith Americanaidd).
[golygu] Ffynonellau
- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)