Band y Cory
Enghraifft o'r canlynol | band pres |
---|---|
Gwefan | http://www.coryband.com |
Band pres o Treorci yn y Rhondda yw Band y Cory. Yn 2016 daeth Cory y band cyntaf yn hanes i ennill Pencampwriaeth Ewrop, Pencampwriaeth Ynysoedd Prydain, Pencampwriaeth Agored Ynysoedd Prydain a chystadleuaeth Brass in Concert yn yr un flwyddyn ac ym mis Ionawr 2017 roedd y band yn dathlu bod yn rhif un ar restr detholion y byd am y 10fed blwyddyn yn olynol.[1]
Hanes[golygu | golygu cod]
Ffurfiwyd y band ym 1884 o dan yr enw Ton Temperance Band ond yn dilyn nawdd gan Sir Clifford Cory, perchennog pwll glo lleol, fyddai'n caniatau'r band i gyflogi arweinydd llawn amser, cafodd y band eu hail enwi y Cory Workmen's Band ym 1895.[2]
Ym 1920 llwyddodd y band i sicrhau eu statws fel Band Pencampwriaeth a chystadlu ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Ynysoedd Prydain am y tro cyntaf ym 1924.[2][3]
Ym 1976 cafodd Cory y fraint o gael eu dewis i gynrychioli Cymru ar daith Americanaidd er mwyn dathlu dau gan mlwyddiant y wlad.
Am resymau nawdd, cafodd y band eu hadnabod fel Just Rentals Cory ym 1988 ac yna wedi i'r cwmni newid eu henw ym 1998, newidiwyd enw'r band i Buy As You View Cory cyn dychwelyd i'r enw Band y Cory yn 2007[2].
Anrhydeddau[golygu | golygu cod]
Llwyddodd Cory i ennill Pencampwriaeth Bandiau Pres Cymru am y tro cyntaf ym 1949[4] ond bu rhaid disgwyl tan 1974 cyn cipio Pencampwriaeth Bandiau Pres Ynysoedd Prydain am y tro cyntaf.[5]
Ym 1980 daeth y cyntaf o'u llwyddiannau ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Ewrop[6] wrth i'r band sefydlu eu lle fel un o prif fandiau pres y byd.
Yn 2016 llwyddodd Cory i ennill y Gamp Lawn o prif bencampwriaethau'r byd bandiau pres, sef Pencampwriaeth Ewrop, Pencampwriaeth Agored Ynysoedd Prydain a Phencampwriaeth Bandiau Pres Ynysoedd Prydain - dim ond y trydydd tro erioed i hyn gael ei gyflawni - ac wrth ychwanegu pencampwriaeth Brass in Concert daeth Cory y band cyntaf yn hanes i fod yn bencampwyr y pedair gystadleuaeth yn yr un flwyddyn. Llwyddodd y Cory i efelychu'r gamp yma unwaith eto yn 2019.
Ym mis Ionawr 2017 dathlodd y band y ffaith eu bod yn rhif un ar restr detholion y byd am y 10fed blwyddyn yn olynol.[1]
Pencampwriaethau[golygu | golygu cod]
- Pencampwyr Ynysoedd Prydain - 1974, 1982, 1983, 1984, 2000, 2013, 2015, 2016, 2019
- Pencampwyr Agored Ynysoedd Prydain - 2000, 2002, 2007, 2009, 2011, 2016, 2018, 2019
- Pencampwyr Ewrop - 1980, 2008, 2009, 2010, 2013, 2016, 2019
- Pencampwyr Brass In Concert - 2008, 2012, 2013, 2015, 2016, 2018, 2019
- Pencampwyr World Music Contest - 2009, 2010, 2011, 2012
- Pencampwyr Band Cymru - 2014, 2018
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 "World Rankings: A record-breaking year for Cory". 4barsrest.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Our history". Cory Band.
- ↑ "Cory Band". BarssBandResults.
- ↑ "Welsh Area Championship". BrassBandResults.
- ↑ "National Finals Championship Section 1974". BrasBandResults.
- ↑ "European Brass Band Championship 1980". BrasBandResults.