Baja California (penrhyn)
Oddi ar Wicipedia
Am ddefnyddiau eraill gweler Baja California.
Penrhyn ar arfordir gorllewinol Mexico yw Baja California (Sbaeneg, yn golygu "Califfornia Isaf") neu California Isaf.[1] Saif i'r de o dalaith California yn yr Unol Daleithiau.
Mae'r penrhyn yn ymestyn i'r Cefnfor Tawel am tua 1250 km ar hyd arfordir Mexico, gan ffurfio bae enfawr, Môr Cortés, a enwyd ar ôl Hernán Cortés. I'r bae yma, daw morfilod llwyd i roi genedigaeth i'w lloi. Rhennir y penrhyn rhwng dwy dalaith, Baja California a Baja California Sur.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 70.