Assia Djebar

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Assia Djebar
Geni Fatima-Zohra Imalayène
30 Mehefin, 1936
Cherchell, Algeria
Galwedigaeth Llenor
Cenedligrwydd Algeriad
Cyfnod ysgrifennu 1957-
Gwaith nodedig "Femmes d'Alger dans leur appartement" (1980),
"L'Amour, la fantasia" (1985)

Llenor o Algeria yw Assia Djebar (arabeg : آسيا جبار), (enw genedigol: Fatima-Zohra Imalayène). Ganwyd yn Cherchell, Algeria, Mehefin 30 1936.

Ysgrifenna yn yr iaith Ffrangeg, a mae hi wedi cyhoeddi nofelau, straeon byrion, barddoniaeth a thraethodau damcaniaethol, yn ogystal â chyfarwyddo ffilmiau. Ymysg themâu ei gwaith mae cyflwr merched, hanes, ac Algeria, drwy chwyddwydr ei hamryw ieithioedd a'i hanes o drais. Caiff ei hystyried yn un o awduron enwocaf a mwyaf dylanwadol y Maghreb. Cafodd ei hethol yn aelod o'r Académie française yn 2005.

Llyfryddiaeth[golygu]

Nofelau a chasgliadau o straeon byrion[golygu]

  • La Soif, 1957
  • Les impatients, 1958
  • Les Enfants du Nouveau Monde, 1962
  • Les Alouettes naïves, 1967
  • L'Amour, la fantasia, 1985
  • Ombre sultane, 1987
  • Loin de Médine, 1991
  • Vaste est la prison, 1995
  • Le blanc de l'Algérie, 1996
  • Femmes d'Alger dans leur appartement, 2002
  • La femme sans sépulture, 2002

Barddoniaeth[golygu]

  • Poème pour une Algérie heureuse, 1969

Dramâu[golygu]

  • Rouge l'aube
Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.