Arfbais Gabon

Oddi ar Wicipedia
Arfbais Gabon

Tarian mewn lliwiau'r faner genedlaethol a gynhelir gan ddau banther du yw arfbais Gabon. Darlunir llong ar fôr glas, i gynrychioli'r wlad yn symud i'r dyfodol, ar gefndir melyn, a stribyn gwyrdd ar frig y darian gyda thri chylch melyn. Y tu ôl i'r darian mae coeden okoumé, symbol o ddiwydiant coed y wlad, gyda'r canghennau a'r dail uwchben y darian a'r gwreiddiau o dan y pantherod. Uwchben y darian mae sgrôl yn dwyn yr arwyddair Unite Progrediamur, ac o dan mae sgrôl arall yn dwyn yr arwyddair cenedlaethol: Union, Travail, Justice.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Siobhán Ryan et al. Complete Flags of the World (Llundain: Dorling Kindersley, 2002), t. 94.