Archangel

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Yn y Traddodiad Abrahamaidd, un o ddosbarth arbennig o angylion sy'n sefyll yn dragwyddol o flaen Duw yn y Nefoedd ac yn gweithredu fel negesydd Iddo weithiau yw archangel. Ffurfia'r archangylion y trydydd o'r corau o amgylch gorsedd Duw. Mewn Cristnogaeth, fe'u darlunir yn gyffredinol fel bodau asgellog o ymddangosiad dynol, gan amlaf yn gwisgo arfwisg. Mae'r archangylion yn rhan o draddodiad Iddewiaeth ac Islam hefyd.

Cyngor yr Angylion (Ангелскй Собор). Eicon Uniongred yn dangos y saith archangel: (o'r chwith i'r dde) Jegudiel, Gabriel, Selaphiel, Mihangel, Uriel, Raphael, Barachiel. O dan y mandorla o Grist Emmanuel ceir y Sierubim (glas) a'r Seraphim (coch).

[golygu] Y saith archangel

Ceir saith archangel yn y traddodiad Cristnogol (cyfeiria Ioan at "y saith angel" sy'n sefyll o flaen Duw). Cyfeirir at bedwar ohonynt yn y Beibl, a dyma'r rhai mwyaf cyfarwydd o lawer:

Yn ogystal ceir tri arall nas enwir yn y Beibl. Yr enwau mwyaf cyffredin arnynt yw:

Mae rhai traddodiadau yn sôn am archangylion eraill hefyd.

[golygu] Islam

Yn Islam, yr archangylion pwysicaf yw Mihangel neu Mikail (archangel cymhorthwy), Gabriel neu Jibril (archangel datguddiad; daeth â'r Coran at Fohamed), ac Angel Angau- a enwir gan amlaf yn Azra-eel neu 'Malak al-Maut' (Angel Angau), Israfel neu Israfil (yr archangel a fydd yn canu'r gorn ar Ddydd Brawd), Maalik (Ceidwad Uffern), Munkar a Nakir (angylion a fydd yn cwestiynu eneidiau'r meirw am eu buchedd) a Radwan (Ceidwad y Nef). Ceir dau angel arall hefyd - y Kiraaman-Katibeen - y cyfeirir atynt yn y Coran.


Ichthus.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Star of David2.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Iddewiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Allah-green.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato