Antoninus Pius

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cerflun o Antoninus Pius yn yr Amgueddfa Brydeinig, Llundain

Antoninus Píus (Titus Aurelius Fulvius Boionus Arrius Antoninus Pius) (19 Medi 86 - 7 Mawrth 161) oedd ymerawdwr Rhufain rhwng 138 a 161.

Roedd yn fab i Aurelio Fulvo, conswl Rhufeinig o deulu oedd yn hannu o Nemausus (Nimes). Ganed Antoninus Píus ger Lanuvium. Dilynodd yrfa arferol uchelwr Rhufeinig, gan ddod yn quaestor, praetor a dwywaith yn gonswl. Yr oedd yn un o bedwar cyn-gonswl a benododd yr ymerawdwr Hadrian i weinyddu'r Eidal. Daeth Hadrian i ymddiried ynddo, ac fe'i mabwysiadodd fel mab ac fel olynydd iddo. Ar farwolaeth Hadrian yn 138 daeth Antoninus Pius yn ymerawdwr.

Dywedir fod Antoninus Pius yn ymerawdwr poblogaidd iawn oherwydd ei allu a'i hynawsedd. Amddiffynnodd y Cristionogion yn yr ymerodraeth ac yr oedd yn nodedig o drugarog wrth ddelio a chynllwynion yn ei erbyn. Yr oedd yn gyfrifol am lawer o adeiladu, yn enwedig yn ninas Rhufain.

Yn ystod ei deyrnasiad bu gwrthryfel yn Mauritania, Judea a Prydain lle gwrthryfelodd y Brigantes, ond nid oedd yr un ohonynt yn ddifrifol iawn. Antoninus Pius oedd yn gyfrifol am adeiladu'r Mur Antonaidd yn Yr Alban, tua 160 km i'r gogledd o Fur Hadrian. Priododd a Faustina yr Hynaf a bu ganddynt ddau fab a dwy ferch, ond yr oedd y rhain i gyd wedi marw cyn iddo ddod yn ymerawdwr ac eithrio Faustina yr Ieuengaf, a briododd Marcus Aurelius. Penododd Marcus Aurelius fel ei olynydd.

Bu farw yn Lorium (Etruria) ar 7 Mawrth 161. Ystyrir ei deyrnasiad, ynghyd a Trajan a Hadrian o'i flaen a Marcus Aurelius ar ei ôl, yn oes aur yr ymerodraeth Rufeinig.