Antigua (ynys)
Oddi ar Wicipedia
Ynys yn y Caribî yw Antigua. Mae'n ffurfio rhan o wlad Antigua a Barbuda.
Mae gan yr ynys arwynebedd o 280 km², a phoblogaeth o tua 68,000. Dinas fwyaf yr ynys, a phrifddinas Antigua a Barbuda, yw Saint John's.
Cyhhaeddodd Christopher Columbus yr ynys yn 1493, a'i henwi ar ôl eglwys gadeiriol Sevilla, Santa Maria la Antigua. Ceisiodd y Prydeinwyr feddiannu'r ynys yn 1632, ond fe'u gyrrwyd ymaith gan y trigolion brodorol, y Caribiaid. Dychwelasant yn 1663 a chipio'r ynys.