Antar

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Antar ac Abla (19eg ganrif).

Yr oedd Antar, neu Antarah Ibn Shaddād Al-'Absi (Arabeg: عنترة بن شداد) (bl. 6ed ganrif), yn fardd yn yr iaith Arabeg ac yn rhyfelwr enwog.

Cafodd ei eni tua dechrau'r 6ed ganrif yn yr anialwch rywle yng nghyffiniau dinas Medina (gorllewin canolbarth Saudi Arabia heddiw), yn fab i bennaeth Bedouin a chaethferch ddu. Roedd hyn yn y cyfnod cyn-Islamaidd.

Cyfansoddodd nifer o awdlau arwrol, a chyfrifir un ohonynt yn un o saith 'Awdl Aur' llenyddiaeth Arabeg.

Daeth yn arwr llên gwerin. Dethlir ei fywyd yn y chwedl arwrol Rhamant Antar (10fed ganrif), sy'n adrodd ei helyntion niferus er mwyn cael priodi ei gariad Abla.

Book template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.