Annie Duke

Oddi ar Wicipedia
Annie Duke
GanwydAnne LaBarr Lederer Edit this on Wikidata
13 Medi 1965, 1965 Edit this on Wikidata
Concord, New Hampshire Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr pocer, ysgrifennwr, dyngarwr Edit this on Wikidata
TadRichard Lederer Edit this on Wikidata
MamRhoda S. Lederer Edit this on Wikidata
Gwobr/auCyfres Pocer y Byd Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Chwaraewr pocer proffesiynol, Americanaidd yw Annie Duke (née Lederer; ganwyd 13 Medi 1965) sydd hefyd yn awdur ac yn ddyngarwr.

Fe'i ganed yn Concord, New Hampshire ar 13 Medi 1965. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Columbia, Prifysgol Pennsylvania, Ysgol St. Paul's, New Hampshire.[1]

Mae ganddi freichled aur Cyfres Byd Poker (WSOP; sef World Series of Poker) ers 2004 ac roedd yn arfer bod yn enillydd arian mwyaf ymysg menywod yn hanes y WSOP (gyda Vanessa Selbst yn ei dilyn). Enillodd Duke y World Series of Poker Tournament of Champions yn 2004 a'r National Heads-Up Poker Championship yn 2010. Mae hi wedi ysgrifennu nifer o lyfrau hyfforddi ar gyfer chwaraewyr pocer, gan gynnwys Decide to Play Great Poker a The Middle Zone, a chyhoeddodd ei hunangofiant , How I Raised, Folded, Bluffed, Flirted, Cursed, and Won Millions at the World Series of Poker yn 2005.

Cyd-sefydlodd Duke, gyda'r actor Don Cheadle, Ante Up for Africa, sefydliad di-elw, yn 2007 er budd elusennau sy'n gweithio mewn gwledydd yn Affrica, ac mae wedi codi arian ar gyfer elusennau eraill a di-elw trwy chwarae a chynnal twrnameintiau poker elusennol.

Magwareth[golygu | golygu cod]

Annie Duke yn 2007

Ganed Anne LaBarr Lederer, yn Concord, New Hampshire, lle dysgodd ei thad lenyddiaeth Saesneg sydd hefyd yn awdur; athrawes hefyd oedd ei mam, Rhoda Lederer. Roedd y ddau'n chwaraewyr cardiau; mae ei brawd Howard a'i chwaer Katy hefyd yn chwaraewyr cardiau proffesiynol.[2] Ysgrifennodd y bardd Katy Lederer, gofiant am y teulu Lederer.[3][3][4][5][6][7]

Ysgol a phrifysgol[golygu | golygu cod]

Tra'n mynychu Ysgol St Paul, gweithiodd Annie yn Kentucky Fried Chicken, sef ei swydd gyntaf. Cofrestrodd ym Mhrifysgol Columbia lle dilynodd radd-dwbwl mewn Saesneg a seicoleg.[4] Ar ôl graddio o Columbia, dilynodd Ph.D. mewn seicoleg ym Mhrifysgol Pennsylvania, gan ganolbwyntio ar ieithyddiaeth wybyddol (cognitive linguistics) ac ysgrifennu ei thraethawd hir ar ddamcaniaeth o sut mae plant yn dysgu eu hiaith gyntaf o'r enw "sodro cystrawennol" (syntactic bootstrapping). Ar gyfer ei hastudiaethau graddedig dyfarnwyd cymrodoriaeth y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol iddi. Ym 1991, un mis cyn amddiffyn ei thraethawd doethuriaeth, penderfynodd nad oedd bellach yn dymuno dilyn y byd academaidd a gadawodd y Brifysgol.[5][8]

Ym 1992, priododd Ben Duke, a symudodd i Billings, Montana. Rhannodd y cwpl eu hamser rhwng Las Vegas a Montana rhwng 1992 a 2002, pan symudon nhw i Portland, Oregon. Roeddent yn briod tan 2004 ac roedd ganddynt bedwar o blant. Yn 2005 symudodd Duke a'i phlant i Hollywood Hills, California.[3][8][9][10]

Gyrfa cynnar[golygu | golygu cod]

Dechreuodd chwarae poker yn y Crystal Lounge, bar lleol yn Billings, a oedd ag ystafell pocer gyfreithlon. Yn dilyn blwyddyn lwyddiannus yn chwarae yn Montana, ysgogodd ei brawd hi i gystadlu mewn twrnameintiau yng Nghyfres Byd Poker (WSOP) 1994 yn Las Vegas. O fewn y mis cyntaf, enillodd $70,000 a phenderfynodd symud i Las Vegas i ddilyn gyrfa pocer broffesiynol.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cyfres Pocer y Byd .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Dyddiad geni: "Annie Duke". Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 27 Mawrth 2024.
  2. Friess, Steve (2 gorffennaf 2007). "A pair of poker aces". The Boston Globe. Cyrchwyd 21 Chwefror 2013. Check date values in: |date= (help)
  3. 3.0 3.1 3.2 "Anne LaBarr Lederer is married to Benjamin B. Duke in Connecticut". The New York Times. 26 Ebrill 1992. Cyrchwyd 5 Mawrth 2013.
  4. 4.0 4.1 Cheney, Dina (Gorffennaf 2004). "Flouting Convention, Part II: Annie Duke Finds Her Place at the Poker Table". Columbia College Today. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-06-24. Cyrchwyd 21 Chwefror 2013.
  5. 5.0 5.1 Jones, Del (July 20, 2009). "Know yourself, know your rival". USA Today. Cyrchwyd 21 Chwefror 2013.
  6. Deitsch, Richard (26 Mai 2005). "Q&A with Annie Duke". Sports Illustrated. Cyrchwyd 21 Chwefror 2013.
  7. Sauer, Mark (9 Hydref 2005). "Annie Duke found her calling". Union Times. San Diego. Cyrchwyd 21 Chwefror 2013.
  8. 8.0 8.1 Bellafante, Ginia (19 ionawr 2006). "Dealt A Bad Hand? Fold 'em. Then Raise". The New York Times. Cyrchwyd 21 Chwefror 2013. Check date values in: |date= (help)
  9. Darrow, Chuck (June 8, 2010). "Annie Duke, Flush With Success". The Philadelphia Inquirer. Cyrchwyd 21 Chwefror 2013.
  10. Jamie Berger (Spring 2002). "Annie Duke, Poker Pro". Columbia Magazine. Cyrchwyd 4 Mawrth 2013.