Amnest

Oddi ar Wicipedia
Am y corff hawliau dynol, gweler Amnest Rhyngwladol.

Yng nghyfraith ryngwladol, amnest,[1] pardwn cyffredinol,[1] neu anghofraith[2] yw'r weithred o lywodraeth yn dileu ac anghofio troseddau ar gyfer y bobl sy'n euog o'r troseddau hynny. Mae'n wahanol i bardwn gan ei fod yn anghofio'r drosedd yn gyfangwbl, tra bod pardwn yn esgusodi'r troseddwr rhag fwy o gosb. Fel arfer rhoddir amnest i grŵp o bobl er mwyn adfer llonyddwch o fewn gwlad mewn amser arbennig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Lewis, Robyn. Termau Cyfraith (Llandysul, Gwasg Gomer, 1972), t. 11.
  2. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 45 [amnesty].
Eginyn erthygl sydd uchod am y gyfraith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.