Altaeg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Un o'r ieithoedd Tyrcaidd yw Altaeg neu Alteg (hefyd: Altai neu Altay), sy'n un o ieithoedd swyddogol Gweriniaeth Altai, Rwsia. Cyfeirid at yr iaith fel Oyrot cyn 1948. Mae'n ymrannu'n ddwy brif dafodiaith a ystyrir gan rai yn ieithoedd ar wahân, sef Altaeg y Gogledd ac Altaeg y De.

Siaradwyr[golygu]

Prif siaradwyr brodorol yr Altaeg yw'r Altai yng Ngweriniaeth Altai ac yn rhanbarth Altai Krai yn rhan Rwsiaidd Canolbarth Asia. Mae tua 20,000 yn siarad Altaeg yn rhugl gyda tua 70,000 arall yn ei deall i ryw raddau. Mae'r rhan fwyaf o'r siaradwyr brodorol hyn yn siarad Altaeg y De.

Sgript[golygu]

Arferid ysgrifennu'r iaith mewn sgript Lladin o 1928 hyd 1938, ond defnyddir yr wyddor Gyrilig (gyda pedair llythyren ychwanegol: Јј, Ҥҥ, Ӧӧ, Ӱӱ) ers 1938.

Dolenni allanol[golygu]

Globe of letters.svg Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.