Alice Liddell

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Alice Liddell yn ferch ifanc - yr enwocaf o luniau Lewis Carroll (Charles Dodgson) ohoni

Y ferch ifanc a ysbrydolodd y cymeriad Alice in Wonderland yn y llyfr Alice's Adventures in Wonderland gan Lewis Carroll oedd Alice Pleasance Liddell (4 Mai, 185215 Tachwedd, 1934).

Yn ferch ifanc, treuliai Alice ei gwyliau haf gyda'r teulu yn ei dŷ Penmorfa ym Mhenmorfa, Llandudno. Mae'n gred boblogaidd fod Carrol wedi ymweld â'r teulu ym Mhenmorfa, ond does dim prawf o hynny. Yn 2008 cafodd y tŷ, a fu'n westy am gyfnod hir cyn cael ei adael i araf adfeilio, ei gomdemnio i gael ei dynnu i lawr, er gwaethaf nifer o brotestiadau yn erbyn hynny. Bydd bloc o fflatiau moethus yn cymryd ei le.