Alexander Hamilton

Oddi ar Wicipedia
Alexander Hamilton
Portread o Alexander Hamilton a gyflawnwyd wedi ei farwolaeth gan John Trumbull (1806).
FfugenwPublius Edit this on Wikidata
Ganwyd11 Ionawr 1757 Edit this on Wikidata
Charlestown Edit this on Wikidata
Bu farw12 Gorffennaf 1804 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Columbia
  • Benicia High School Edit this on Wikidata
Galwedigaetheconomegydd, gwleidydd, ysgrifennwr, person busnes Edit this on Wikidata
SwyddYsgrifennydd Trysorlys yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolY Blaid Ffederal Edit this on Wikidata
MamRachel Faucitt Lavien Edit this on Wikidata
PlantJohn Church Hamilton Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America Edit this on Wikidata
llofnod

Swyddog milwrol a gwleidydd o Americanwr ac un o Sefydlwyr yr Unol Daleithiau oedd Alexander Hamilton (11 Ionawr 1755 neu 1757 – 12 Gorffennaf 1804)[1] a wasanaethodd yn Ysgrifennydd y Trysorlys o 1789 i 1795, y cyntaf yn y swydd, yn ystod arlywyddiaeth George Washington. Gwasanaethodd yn y Fyddin Gyfandirol yn ystod Chwyldro America, ac efe oedd un o gynrychiolwyr Efrog Newydd yn y Gynhadledd Gyfansoddiadol (1787) ac un o awduron y Federalist Papers (gyda James Madison a John Jay).

Plentyn anghyfreithlon ydoedd a aned yn Charlestown ar ynys Nevis yng ngwladfa Brydeinig yr Ynysoedd Cyferwyntol, yn y Caribî. Albanwr oedd ei dad, ac yr oedd ei fam o dras Brydeinig a Hiwgenot. Cafodd ei amddifadu ym 1768, a chafodd waith yn glerc i gwmni masnach. Aeth i'r Tair Gwladfa ar Ddeg ym 1772 ac astudiodd yng Ngholeg y Brenin (bellach Prifysgol Columbia) yn Ninas Efrog Newydd. Ysgrifennodd nifer o bamffledi, yn ddienw, a ddarllenid gan lawer, yn dadlau dros yr achos chwyldroadol. Wedi cychwyn y rhyfel annibyniaeth, ymunodd Hamilton â'r Fyddin Gyfandirol a brwydrodd yn erbyn y Prydeinwyr yn ymgyrch Efrog Newydd a New Jersey (1776–77). Gwasanaethodd yn gadweinydd i'r Cadfridog George Washington, a chynorthwyodd wrth sicrhau buddugoliaeth drwy warchae ar Yorktown, Virginia (1781). Wedi diwedd y rhyfel annibyniaeth, gwasanaethodd Hamilton yn ddirprwy dros Efrog Newydd i Gyngres y Cydffederasiwn yn Philadelphia ym 1783. Ymddiswyddodd i fod yn gyfreithiwr, a sefydlodd Fanc Efrog Newydd ym 1784. Fodd bynnag, dychwelodd i'r dadlau dros y wladwriaeth newydd ac ym 1786 arweiniodd Gynhadledd Annapolis, gan gyhoeddi Cyfansoddiad yr Unol Daleithiau i ddisodli Erthyglau'r Cydffederasiwn. Yn yr ymgyrch i gadarnhau'r cyfansoddiad, ysgrifennodd Hamilton 51 o'r 85 o benodau'r Federalist Papers.

Gwasanaethodd Hamilton yn Ysgrifennydd y Trysorlys yng nghabinet yr Arlywydd Washington, ac yn y swydd honno arddelai llywodraeth ganolog gydag arlywyddiaeth bwerus, byddin a llynges gryf, ac economi ddiwydiannol. Dadleuodd bod pwerau goblygedig y cyfansoddiad yn rhoi i'r llywodraeth ffederal yr awdurdod i gydgyfnerthu'r ddyled wladol, i gymryd meddiant o ddyledion y taleithiau, ac i greu Banc Cyntaf yr Unol Daleithiau, a gyllidwyd gan dariff ar fewnforion a threth ar wisgi. Gwrthwynebodd gysylltiadau rhwng yr Unol Daleithiau a llywodraethau'r Chwyldro Ffrainc, a siaradodd o blaid masnachu â'r Ymerodraeth Brydeinig dan delerau Cytundeb Jay. Llwyddodd hefyd i ddwyn perswâd ar y Gyngres i sefydlu Gwasanaeth Llongau Ecséis yr Unol Daleithiau. Gosododd safbwyntiau Hamilton sail ar gyfer y Blaid Ffederalaidd, a wrthwynebwyd gan y Blaid Ddemocrataidd-Weriniaethol dan arweiniad Thomas Jefferson. Cefnogodd Hamilton achos y chwyldroadwyr yn erbyn y Ffrancod yn Haiti, a chynorthwyodd wrth lunio cyfansoddiad y wlad honno.

Wedi iddo ymddiswyddo o'r Trysorlys, gweithiodd Hamilton yn gyfreithiwr a dyn busnes, a bu'n un o ladmeryddion diddymiaeth. Yn ystod y Lled-Ryfel (1798–1800) galwodd am fyddino'n erbyn Ffrainc, a fe'i penodwyd yn uwchfrigadydd ym Myddin yr Unol Daleithiau gan yr Arlywydd John Adams. Fodd bynnag, rhyfel llyngesol a fyddai, a ni dychwelodd Hamilton i faes y gad. Cafodd ei wylltio gan ymateb yr arlywydd i'r argyfwng, a gwrthwynebodd felly ymgyrch Adams i gael ei ail-ethol ym 1800. Yn y diwedd, rhoes ei gefnogaeth i Thomas Jefferson yn yr etholiad arlywyddol, gan ystyried ei wrthwynebydd Aaron Burr yn ddiegwyddor. Ymosododd yn chwyrn ar Burr eto yn ystod ymgyrch yr hwnnw i fod yn llywodraethwr Efrog Newydd ym 1804, ac o ganlyniad cafodd Hamilton ei herio i ornest gan Burr. Ar 11 Gorffennaf 1804 saethwyd Hamilton yn y stumog gan Burr yn Weehawken, New Jersey, a bu farw o'i anafiadau trannoeth yn Greenwich Village, Efrog Newydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Alexander Hamilton. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Medi 2023.