Albinedd

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Cyflwr etifeddol yw albinedd, sy'n golygu na all y corff gynhyrchu digon o felanin. Gall hyn arwain at groen a gwallt gwyn, ac achosi i'r llygaid edrych yn binc. Mae'r irisau yn glir mewn gwirionedd, ond mae'r modd y mae golau'n adlewyrchu o'r llygaid yn gwneud iddynt ymddangos yn binc. Mae albinioaid yn gallu dioddef o olwg gwael o achos hyn.

[golygu] Ystrydebau

Mae llawer o ystrydebau celwyddus wedi tyfu'r o'r cyflwr anghyffredin hwn; dyma rai enghreifftiau:-

"Mae gan albinoaid hyd oes fer" - Mae gan albinoaid hyd oes normal, er bod eu bod yn fwy tebygol o gael cancr y croen na'r rhan fwyaf o'r boblogaeth.

"Mae albinoaid yn anffrwythlon" - Nid yw hyn yn wir.

"Mae gan albinoaid bwerau hudol" - Nid yw hyn, wrth gwrs, yn wir. Mae'r syniad yma, efallai, wedi codi o'r byd film.

"Gall cysgu ag albino wella'r clefyd HIV" - Chwedl o Frasil yw hon. O achos hyn, mae llawer o fenywod albinaidd yn cael eu treisio.

Eginyn erthygl sydd uchod am Iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol