Albi
Oddi ar Wicipedia
Dinas a chymuned yn ne Ffrainc yw Albi. Saif yn département Tarn a région Midi-Pyrénées. Hi yw prifddinas Tarn. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 46,274.
Hanes [golygu]
Saif y ddinas ar afon Tarn. Yn y cyfnod Rhufeinig, fe'i gelwid yn Albiga. Cafodd yr Albigensiaid, grŵp yn y 13eg ganrif a ystyrid yn hereticiaid gan yr Eglwys Gatholig, eu henw o Albi. Adeiladwyd Eglwys Gadeiriol Sainte-Cecile rhwng 1282 a 1480. Dyddia Pont Vieux "yr hen bont", o'r 12fed ganrif.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Amgueddfa Toulouse-Lautrec
- Eglwys Gadeiriol Sainte Cécile
- Lycée Lapérouse (ysgol)
- Palais de la Berbie (palas yr esgob)
Enwogion [golygu]
- Raymond Adolphe Séré de Rivières (1815-1895), peiriannydd
- Henri de Toulouse-Lautrec (1864-1901), arlunydd