Agadir

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Golygfa ar Agadir
Mosg Loubnan, Agadir
Twristiaid ar draeth Agadir

Dinas ym Moroco yw Agadir (Arabeg: أغادير Aġadīr neu Agadīr, Berbereg (Amazigh): Agadir amazigh.jpg). Fe'i lleolir yn ne-orllewin Moroco ar lan Cefnfor Iwerydd ac mae'n brifddinas talaith Agadir (MA-AGD) a rhanbarth Souss-Massa-Draâ. Poblogaeth: tua 200,000.

Dyma'r ddinas Forocaidd fwyaf cyfarwydd i dwristiaid o'r Gorllewin oherwydd y gwestai gwyliau paced niferus yno ac yn y cyffiniau.

Sefydlwyd canolfan masnach arfordiol yma gan y Portiwgalwyr ar ddechrau'r 16eg ganrif. Ar 29 Chwefror, 1960, dinistrwyd Agadir gyfan bron mewn daeargryn a barodd am 15 eiliad: amcangyfrir fod tua 15,000 wedi'u lladd. Dinistrwyd yr hen Kasbah. Datblygwyd y ddinas o'r newydd bron a'i throi yn ganolfan gwyliau 'haul y gaeaf'. Erbyn heddiw twristiaeth yw'r prif ddiwydiant ac mae miloedd lawer o dwristiaid yn hedfan yno o wledydd Ewrop. O ganlyniad, dydy Agadir ddim yn ddinas Forocaidd nodweddiadol.

Cymunedau[golygu]

  • Secteur Touristique
  • Founty
  • Iligh
  • Sonaba
  • Ihchach
  • Les Amicales
  • City Centre
  • Nouveau Talborjt
  • Cité Suisse
  • Lakhiyam
  • Dakhla
  • Extension Dakhla
  • Al Houda
  • Salam
  • Riad Assalam
  • Hay al Hassani
  • Anza
  • L'Erac (Bouargane).
  • Quartier Industriel Tasila
  • Tilila
  • Quartier Residentiel
  • Quartier Al mohammadi

Amgueddfeydd[golygu]

  • Musee de Talborjt "La Casbah"
  • Musee Bert Flint
  • Le Musse des Arts Berberes
  • Musee Municipal de Agadir
  • Le Sicilien Coco Polizzi (Quartier)

Dolenni allanol[golygu]

Flag of Morocco.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato