Afon Chari
Oddi ar Wicipedia
Afon fawr yng nghanolbarth Affrica yw Afon Chari (weithiau: Afon Shari). Ei hyd yw 949 cilometr. Mae'n llifo o'i tharddle yng Ngweriniaeth Canolbarth Affrica trwy Tchad i Llyn Tchad, gan ddilyn y ffin rhwng Tchad a Camerŵn o ddinas N'Djamena ymlaen, lle mae'n ymuno â dyfroedd Afon Logone.
Mae'r rhan helaeth o boblogaeth Tchad, yn cynnwys Sarh a'r brifddinas N'Djamena, yn byw ar ei glannau. Mae'n cyfrannu 90% o'r dŵr sy'n llifo i Lyn Tchad. Mae ei thalgylch yn cynnwys 548,747 km². Mae pysgota yn yr afon yn bwysig iawn i drigolion ei glannau.