Afon Logone

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Logone-Birni, 1892

Afon yng nghanolbarth Affrica sy'n un o brif lednentydd Afon Chari yw Afon Logone. Mae tarddleoedd Afon Logone yn gorwedd yng ngorllewin Gweriniaeth Canolbarth Affrica, gogledd Camerŵn, a de Tchad. Mae nifer o gorsydd a gwlybdiroedd o gwmpas yr afon.

Mae dinasoedd a threfi ar ei glannau yn cynnwys Moundou, dinas ail-fwyaf Tchad, a Kousseri, dinas fwyaf gogleddol Camerŵn. Gorwedd N'Djamena, prifddinas Tchad ar gymer Afon Logone yn Afon Chari.

Africa stub icon.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill