Afon Arkansas

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tarddiad Afon Arkansas ger Leadville, Colorado

Mae Afon Arkansas yn un o'r afonydd mwyaf i ymuno ag Afon Mississippi, yng nghanolbarth yr Unol Daleithiau. Enwir talaith Arkansas ar ei hôl. Mae'r afon yn llifo i'r dwyrain neu'r de-ddwyrain, yn gyffredinol, gan groesi taleithiau Colorado, Kansas, Oklahoma, ac Arkansas.

Gyda hyd o 1,469 milltir (2,364 km), Afon Arkansas yw'r chweched hiraf yn yr Unol Daleithiau. Mae'n tarddu yn uchel yn nhalaith Colorado yn y Rockies, yn Swydd Lake ger Leadville, ac mae'n aberu yn y Mississippi ger safle hanesyddol Napoleon, Arkansas. Afon Arkansas yw'r afon ail-fwyaf sy'n llifo i'r system Mississippi-Missouri. Mae ganddi fasn o 195,000 sq mi (505,000 km²).