Aeschulos

Oddi ar Wicipedia
Aeschulos
Ganwyd525 CC Edit this on Wikidata
Elefsina Edit this on Wikidata
Bu farw456 CC Edit this on Wikidata
Gela Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAthen yr henfyd Edit this on Wikidata
Galwedigaethawdur trasiediau, gwron, dramodydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAgamemnon, Cludwyr Rhyddid, Yr Eumenides, Y Persiaid, Promtheus mewn cadwynau, Saith yn Erbyn Thebes, Y deisyfwragedd Edit this on Wikidata
ArddullGreek tragedy Edit this on Wikidata
TadEuphorion o Eleusis Edit this on Wikidata
PlantEuphorion, Eueon Edit this on Wikidata

Dramodydd Geoegaidd oedd Aeschulos (Groeg: Αἰσχύλος, 525 CC/524 CC - 456 CC). Ef oedd y cyntaf o dri trasiedydd mawr Athen; dilynwyd ef gan Soffocles ac Euripides.

Ganed ef yn 525 neu 524 CC yn Eleusis, tref fechan rhyw 30 km i'r gogledd-orllewin o Athen. Yn 490 CC, ymladdodd Aeschulos a'i frawd Cynegeirus yn erbyn y Persiaid ym Mrwydr Marathon. Lladdwyd Cynegeirus yn y frwydr. Efallai iddo hefyd ymladd ym Mrwydr Salamis ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ond nid oes prawf o hyn, er iddo ddisgrifio'r ymladd yn fyw yn ei ddrama Y Persiaid.

Teithiodd Aeschulos i Sicilia unwaith neu ddwy yn y 470au CC, ar wahoddiad Hieron, teyrn Siracusa. Dychwelodd i Sicilia yn 458 CC, a bu farw yno, yn ninas Gela, yn 456 neu 455 BC. Yn ôl un chwedl. fe'i lladdwyd pan gredodd eryr mai carreg oedd ei ben moel, a gollwng crwban arno.

Ar garreg ei fedd, rhoddwyd arysgrif oedd yn coffáu ei wrhydri fel milwr yn hytrach na'i fri fel dramodydd:

Groeg Cymraeg
Αἰσχύλον Εὐφορίωνος Ἀθηναῖον τόδε κεύθει
μνῆμα καταφθίμενον πυροφόροιο Γέλας·
ἀλκὴν δ’ εὐδόκιμον Μαραθώνιον ἄλσος ἂν εἴποι
καὶ βαρυχαιτήεις Μῆδος ἐπιστάμενος[1]
Cuddir llwch Aeschulos yma yn y bedd,
Mab Euphorion a balchder Gela ffrwythlon
Y prawf roed ar ei ddewrder, Marathon sy'n rhoi ar goedd
A'r Mediaid hirwallt, a'i gwybu er eu loes.

Dramâu sydd wedi gorooesi[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. testun o Anthologiae Graecae Appendix, cyf. 3, Epigramma sepulcrale, Tud 17