Abu Mena

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Abu Mena

Safle bererindod Gristnogol yng ngogledd yr Aifft yw Abu Mena, hefyd Abu Mina. Cyhoeddwyd ef yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1979.

Saif Abu Mena yn anialwch Mariut, yn rhanbarth Burg al-Arab. O ddiwedd y 4edd ganrif, datblygodd bedd Sant Menas yn gyrchfan i bererinion. Dinistriwyd yr adeiladau yma yn 619, pan feddiannwyd yr ardal gan y Persiaid, ond fe'i hail-adeiladwyd yn 629. Ers canol yr 20fed ganrif, mae mynachlog Goptaidd newydd yno.