A Run for Your Money

Oddi ar Wicipedia
A Run for Your Money
Teitl amgen Lark
Cyfarwyddwr Charles Frend
Cynhyrchydd Michael Balcon
Ysgrifennwr Richard Hughes, Leslie Norman a Charles Frend (deialog ychwanegol gan Diana Morgan)
Cerddoriaeth Ernest Irving
Sinematograffeg Douglas Slocombe
Golygydd Michael Truman
Sain Arthur Bradburn, Stephen Dalby, Eric Stockl
Dylunio William Kellner
Cwmni cynhyrchu Ealing Studios
Dyddiad rhyddhau 23 Tachwedd 1949
Amser rhedeg 85 munud
Gwlad Y Deyrnas Unedig
Iaith Saesneg

Ffilm gomedi gan Ealing Studios a ryddhawyd ym 1949 yw A Run for Your Money.

Crynodeb[golygu | golygu cod]

Comedi sy’n dilyn hynt a helynt dau frawd o bentref Cymreig ffuglennol o’r enw Hafoduwchbenceubwllymarchogcoch. Enilla Dai a Twm Jones, sy’n lowyr, drip i Lundain i gasglu £200 a thocynnau i’r gêm rygbi ryngwladol rhwng Cymru a Lloegr yn Twickenham. Dilynir helbulon y ddau yn y ddinas lle mae’r ddau yn cael eu gwahanu, gyda Dai yn cyfarfod merch leol dwyllodrus o’r enw Jo a Whimple y newyddiadurwr sydd wedi’i anfon i adrodd ar drip y brodyr. Daw Twm, ar y llaw arall, ar draws Huw, hen gyfaill o Gymru sy’n delynor. Ar ôl sawl tro trwstan yn Llundain, dychwela’r ddau frawd i Gymru yng nghwmni Huw yn falch o gael cefnu ar y ddinas fawr ddrwg.

Cast a chriw[golygu | golygu cod]

Prif gast[golygu | golygu cod]

Cast cefnogol[golygu | golygu cod]

  • Clive Morton (Golygydd)
  • Julie Milton (Bronwen)
  • Peter Edwards (Davies Manager)
  • Joyce Grenfell (Mrs Pargiter)
  • Leslie Perrins (Barney)
  • Dorothy Bramhall (Jane Benson)
  • Andrew Leigh (Gwystlwr)
  • Edward Rigby (Beefeater)
  • Desmond Walter-Ellis (Cyhoeddwr yr Orsaf)
  • Mackenzie Ward (Stebbins, Ffotograffydd)
  • Meadows White (Guv'nor)
  • Gabrielle Brune (Cantores)
  • Ronnie Harries (Dan)
  • Diana Hope (Cwsmer)
  • Dudley Jones (Bleddyn)
  • David Davies (Dieithryn Cydnerth)
  • Tom Jones (Hen Löwr)
  • Richard Littledale (Rheolwr Sinema)

Cydnabyddiaethau eraill[golygu | golygu cod]

  • Cynhyrchydd cysylltiol – Leslie Norman
  • Dylunio gwisgoedd – Anthony Mendleson
  • Adran goluro – Barbara Barnard (gwallt); Harry Frampton (colur); Ernest Taylor (colur)
  • Rheolwr cynhyrchu – Ralph D. Hogg
  • Arolygwr cynhyrchu – Hal Mason
  • Cyfarwyddwr cynorthwyol [1] – Norman Priggen
  • Cyfarwyddwr cynorthwyol [2] – Simon Kershaw
  • Cyfarwyddwr cynorthwyol [3] – Christopher Barry
  • Gweithiwr camera – Jeff Seaholme
  • Cysonydd – Phyllis Crocker
  • Rheolwr stiwdio/ Arolygwr technegol – Baynham Honri

Manylion Technegol[golygu | golygu cod]

Tystysgrif Ffilm: U

Fformat Saethu: 35mm

Lliw: Du a Gwyn

Lleoliadau Saethu: Stiwdio Ealing; Llundain; Twickenham

Gwobrau: 1950 – BAFTA – enwebwyd yng nghategori y Ffilm Brydeinig Orau

Manylion Atodol[golygu | golygu cod]

Llyfrau[golygu | golygu cod]

  • Charles Barr, Ealing Studios (2il argraffiad, Studio Vista, 1995)
  • David Berry, Wales and Cinema: the first hundred years (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1994)
  • Jim Leach, British Film (Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2004)
  • George Perry, Forever Ealing: A Celebration of the Great British Film Studio (Pavilion, 1981)
  • Jeffrey Richards, Films and British National Identity (Manceinion, 1997)
  • Peter Stead, ‘Wales in the Movies’ yn Tony Curtis (gol.), Wales – The Imagined Nation (Penybont ar Ogwr, 1986)

Gwefannau[golygu | golygu cod]

Adolygiadau[golygu | golygu cod]

  • Richard Mallett, ‘A Run For Your Money’, Punch, 7 Rhagfyr 1949, t. 632.
  • H. Raynor, ‘Nothing to Laugh at …’, Sight and Sound, 19:2, Ebrill 1950, tt. 68–74.

Erthyglau[golygu | golygu cod]

  • John Ellis, ‘Made in Ealing’, Screen, 16:1, Gwanwyn 1975
  • Kate Woodward, ‘Gwyrdroi a Gweddnewid: datblygiadau diweddar yn y portread o Gymru ar ffilm’, Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, 3 (2006)
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod A Run For Your Money ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.