Hugh Griffith

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hugh Griffith yn Ben Hur (1959).

Actor Cymreig a rhugl ei Gymraeg oedd Hugh Emrys Griffith (30 Mai, 191214 Mai, 1980). Cafodd ei eni ym Marianglas, Sir Fôn, yn fab i Mary a William Griffith. Cafodd ei addysg yn Ysgol Sirol Llangefni, ond fe fethodd arholiadau i fynd i'r brifysgol. Cafodd ei annog i ddilyn gyrfa mewn bancio ac fe symudodd i Lundain i fod yn agosach at gyfleuon actio. Fel yr oedd yn ennill mynediad i'r Academi Celfyddydau Drama Brenhinol fe dorrodd y Rhyfel Byd 1af allan, a gwasanaethodd yn y fyddin Brydeinig am chwe mlynedd gyda'r Ffiwsilwyr Cymreig yn India, ac yn ymgyrch Burma. Ailgydiodd yn ei yrfa actio yn 1946

Derbyniwyd ef i'r orsedd gan yr Archdderwydd William Morris yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni 195t. Derbyniodd radd anrhydeddus gan Brifysgol Cymru, Bangor yn 1980. Bu farw o drawiad ar ei galon yn Llundain yn 1980

Ffilmiau[golygu]

Teledu[golygu]

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.