Aïn Draham

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Canol Aïn Draham.
Golygfa ar Aïn Draham.

Mae Aïn Draham yn dref yng ngogledd-orllewin Tiwnisia, yn nhalaith Jendouba, a leolir 25 km i'r de o Tabarka ar y ffin ag Algeria i'r gorllewin. Ar un adeg bu'n ganolfan filwrol a thref farchnad leol, ac erbyn heddiw mae hi'n ganolfan economaidd i'r ardal leol ac yn cael ei galw yn "frynfa Tiwnisia" oherwydd ei uchder a'i hinsawdd gymhedrol.

Yn brif ganolfan yr ardal (délégation) leol o 40,372 o bobl, mae gan Aïn Draham boblogaeth o 10,843 (2004); am ei bod yn "brifddinas" yr ardal fechan mae hi'n cael ei chfrif yn ddinas yn Nhiwnisia. Mae hi'n gorwedd tua 800 m i fyny ar lethrau Djebel Bir (1014 m), sy'n un o gopaon uchaf mynyddoedd y Kroumirie. Yr ardal o gwmpas y dref yw'r gwlypaf yn y wlad sy'n dal record Tiwnisia am law mewn blwyddyn (1534 mm).

Ystyr yr enw Aïn Draham yw "Ffynnon Arian" (aïn 'ffynnon' + draham 'arian'); fe'i gelwir felly oherwydd y ffynhonnau poeth swlffwrig niferus yn y cylch, a ddefnyddiwyd gan y Rhufeiniaid. Gellir gweld olion baddondai Rhufeinig yma ac acw yn ymyl y dref.

Ers cyfnod mandad Ffrainc yn y wlad, mae Aïn Draham wedi bod yn fan ymddeol a hamddena. Mae gan nifer o'i dai traddodiadol doeau teils coch trawiadiol sy'n debyg i'r hyn a geir ym mryniau de Ewrop. Mae hi'n enwog yn Nhiwnisia am ei choedwigoedd eang o dderi corc a chyfoeth ei hanifeiliaid gwyllt, yn arbennig baedd gwyllt.