Ïon
Oddi ar Wicipedia
Map potensial electrostatig o ïon nitrad (NO3−). Mae'r rhannau lliw coch yn uwch eu dwysedd electron na'r rhannau lliw melyn
- Gweler hefyd Ion (gwahaniaethu).
Atom neu moleciwl sydd wedi colli neu ennill un neu ragor o electronau falens gan roi iddo gwefr trydanol positif neu negyddol yw ïon.
Gelwir ïon â gwefr negyddol, sef un gyda fwy o electronau yn ei blisg na phrotonau yn ei niwclews, yn anïon (ana: Groeg 'i fyny'). Ar y llaw arall, gelwir ïon â gwefr positif, gyda llai o electronau na phrotonau, yn catïon (kata: Groeg 'i lawr').
Gelwir ïon o atom unigol yn ïon monatomig, ond os oes ganddo fwy nag un atom fe'i gelwir yn ïon polyatomig. Gelwir ïonau sy'n cynnwys ocsigen yn ocsianïonau.
Mae casgliad o ïonau nwyol, neu nwy sy'n cynnwys canran uchel o ronynnau wedi'u gwefru, yn cael ei alw yn plasma.