Niwclews atomig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Darluniad rhannol gywir o atom heliwm. Mae'r protonau'n goch a'r niwtronau'n las. Mewn gwirionedd mae'r niwclews yn sffêr cymesurol.

Rhan canol a dwys o'r atom ydy'r niwclews atomig (neu'r cnewyllyn atomig) ac sy'n cynnwys protonau a niwtronau. Bron y gellir dweud fod holl fas yr atom yn y niwclews hwn, gydag ychydig bychan iawn o fas yn dod o'r electronau sy'n cylchdroi o'i gwmpas. Cafodd ei ddarganfod yn 1911 fel canlyniad i waith Ernest Rutherford yn dadansoddi arbrawf a wnaeth ef gyda chymorth Hans Geiger ac Ernest Marsden cyn hynny: yn 1909.

Mae diamedr y niwclews yn amrywio yn ei faint o 1.6 fm (10−15 m) (ar gyfer proton o hydrogen ysgafn) i tua 15 fm (ar gyfer yr atomau trymaf megis wraniwm). Mae'r meintiau'n lawer llai na maint cyfan yr atom, o gymhareb o 23,000 (wraniwm) i tua 145,000 (hydrogen). Mae bron holl fàs yr atom yn cael ei greu gan brotonau a niwtronau yn y niwclews, gyda chyfraniad bach iawn gan yr electronau sy'n ei gylchu.

Geirdarddiad[golygu]

Bathwyd y term "niwclews" sy'n golygu "cnewyllyn cneuen" yn 1704. Ym 1844, defnyddiodd Michael Faraday y term i gyfeirio at "pwynt canolog yr atom." Cynigwyd yr ystyr gyfoes am un atomig gan Ernest Rutherford ym 1912.[1] Ni fabwysiadwyd y term "niwclews" i theori atomig yn syth, er enghraifft ym 1916, fe ddywedodd Gilbert N. Lewis yn ei erthygl enwog The Atom and the Molecule[2], fod "yr atom wedi'i gyfansoddi o gnewyllyn ac atom allanol neu blisgyn".

Cyfeiriadau[golygu]

Nuclear physics stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg niwclear. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.