Sgwrs Defnyddiwr:Paulpesda
Croeso i'r Wicipedia.
Arddull[golygu cod]
- Ym mrawddeg cyntaf pob erthygl, dyali testun yr erthygl ymddangos mewn ysgrifen trwm (bold).
- Ceisia osgoio defnyddio geiriau fel 'unigryw' i ddisgrifio rhywbeth, yn enwedig deuawd, gan mai mater o farn yw hynny.
- Pan yn creu dolen at erthygl arall yn Wicipedia, does ond angen gwneud unwaith (h.y., os ti'n cyferio at Theatr Gwynedd sawl tro mewn erthygl, dim ond y tro cyntaf mae angen creu dolen). Mae'r erthygl yn mynd i edrych yn fler fel arall, yn enwedig os yw'r ddolen yn goch am nad yw'r erthygl yn bodoli eto.
Erthyglau'n bodoli'n barod[golygu cod]
Mae dolen gyda ti at SAIN yn yr erthygl Hogiau Llandegai, ond mae erthygl amdanynt yn barod o'r enw Cwmni Recordiau Sain (ddim i'w gymysgu gyda'r arthygl am sain (sound)). I wneud dolen at y dudalen yma ymddangos fel hyn: Sain, dyma'r côd: [[Cwmni Recordiau Sain|Sain]]
Categoriau[golygu cod]
Er mwyn ei wneud yn haws i eraill ddod o hyd i erthyglau tebyg am yr un pwnc, mae Categori:Categorïau yn bodoli. I roi erthygl mewn categori, ti'n cynnwys y côd ar waelod cynnwys tudalen (tip: erdycha am erthyglau ar hap i weld y math o gategorïau sy'n bodoli, a gwasga 'golygu' i weld y côd tu cefn iddynt). Er engrhiafft:
- Mae Everton F.C. yn perthyn i gategori Categori:Timau pêl-droed Lloegr, ac mae [[:Categori:Timau pêl-droed Lloegr]] ar waelod eu tudalen yn y côd.
- Mewn erthygl am berson mae nhw'n cael eu catagreiddio yn ôl eu galwedigaeth a pha wlad maen't ohon, ac er mwyn iddynt gael eu rhestru yn nhrefn y wyddor eu cyfenwau, ti'n defnyddio'r arddull canlynol yn y côd: [[Categori:Pêl-droedwyr Seisnig|Rooney, Wayne]] a [[Categori:Genedigaethau 1985|Rooney, Wayne]]
*Paid poeni am y categori os ti ddim yn siwr pa rai mae dy erthyglau'n perthyn iddynt, bydd golygwyr eraill yn debygol o ddod draw a'u gosod yn y rhai priodol ar dy ôl neu creu rhai newydd os oes rhaid, ond rho dro arni os ti'n gallu.
Os oes cwestiwn gyda ti, hola yn Y Caffi, neu ar fy nhudalen Sgwrs.--Ben Bore 15:05, 2 Gorffennaf 2008 (UTC)