Idiom

Oddi ar Wicipedia

Dywediad neu ymadrodd sydd ag ystyr drosiadol sydd ond yn ddealladwy yng nghyd-destun y frawddeg yw idiom (o'r Lladin "idioma" sy'n golygu "nodwedd arbennig") neu priod-ddull. Mae gan idiom ystyr wahanol i'w ystyr lythrennol neu ddiffiniad y geiriau unigol. Amcangyfrifir fod 25,000 o ymadroddion idiomatig yn Saesneg a cheir nifer yn y Gymraeg hefyd.

Enghreifftiau[golygu | golygu cod]

  • Mae hi'n bwrw hen wragedd a ffyn / cyllyll a ffyrc
  • Tynnu nyth cacwn ar fy mhen
  • Mae mwy nag un ffordd i gael Wil i'w wely
  • Haws dweud mynydd na mynd drosto
  • Stori asgwrn pen llo
Chwiliwch am idiom
yn Wiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.