Gwyrth

Oddi ar Wicipedia
Un o'r gwyrthiau sy'n cael eu hadrodd yn y Testament Newydd: Iesu Grist yn cerdded ar Fôr Galilea; paentiad (1766) gan François Boucher (1703–1770)

Digwyddiad rhyfeddol a briodolir i ymyriad dwyfol neu oruwchnaturiol yw gwyrth.[1]

Crefyddau'r India[golygu | golygu cod]

Yn Hindŵaeth, Jainiaeth, a Bwdhaeth, credir bod y gallu i wneud gwyrthiau gan ddynion nad ydynt yn dduwiau neu'n ffigurau arwrol, megis yr iogi a'r asgetig.[2]

Cristnogaeth[golygu | golygu cod]

Yn y Testament Newydd priodolir sawl gwyrth i Iesu Grist, gan gynnwys troi'r dŵr yn win a cherdded ar y môr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  gwyrth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Ebrill 2018.
  2. (Saesneg) Miracle. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Ebrill 2018.