Zac Goldsmith

Oddi ar Wicipedia
Zac Goldsmith
Ganwyd20 Ionawr 1975 Edit this on Wikidata
Westminster Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Eton
  • Cambridge Centre for Sixth-form Studies
  • Hawtreys
  • King's House School
  • The Mall School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, golygydd, newyddiadurwr, ysgrifennwr, ecolegydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Minister of State for Pacific and the Environment, Minister of State for Overseas Territories, Commonwealth, Energy, Climate and Environment Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadJames Goldsmith Edit this on Wikidata
MamAnnabel Goldsmith Edit this on Wikidata
PriodSheherazade Goldsmith, Alice Rothschild Edit this on Wikidata
PlantUma Goldsmith, Thyra Goldsmith, James Goldsmith, Dolly Goldsmith, Max Goldsmith, Edie Goldsmith Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.zacgoldsmith.com/ Edit this on Wikidata

Gwleidydd Ceidwadol Seisnig yw Frank Zacharias Robin "Zac" Goldsmith (ganwyd 20 Ionawr 1975).

Fe'i ganwyd yn Llundain, yn fab i'r dyn busnes a biliwnydd Syr James Goldsmith, ac Annabel Vane-Tempest-Stewart, merch i'r 8ed Ardalydd Londonderry. Addysgwyd yng Ngholeg Eton (a fe'i diarddelwyd o achos cyffuriau) a'r Cambridge Centre for Sixth-form Studies.

Roedd yn aelod Seneddol dros Richmond Park (ger Llundain) rhwng 2010 a 2016 fel aelod y blaid Ceidwadwyr, gyda mwyafrif o 23,015 yn 2015. Ymddiswyddodd o'r blaid a'i sedd yn San Steffan ym mis Hydref 2016 mewn protest am estyniad Maes Awyr Heathrow, a cheisiodd yn aflwyddiannus i gael ei ailethol i'r sedd yn yr is-etholiad fel ymgeisydd annibynnol. Fe'i etholwyd unwaith eto yn aelod seneddol Richmond Park yn etholiad brys Mehefin 2017.

Roedd yn ymgeisydd aflwyddiannus dros Faer Llundain ym mis Mai 2016.