Ysgutor llenyddol

Oddi ar Wicipedia

Person sy'n gyfrifol am ystad lenyddol yw ysgutor llenyddol, sydd yn fath o ysgutor a benodwyd yn aml gan ewyllys y llenor. Bydd ystad lenyddol yn cynnwys hawlfraint a hawliau eiddo deallusol eraill, llawysgrifau gwreiddiol yr awdur, gweithiau sydd heb eu cyhoeddi, a dogfennau personol megis dyddiaduron a llythyron.

Eginyn erthygl sydd uchod am y gyfraith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.