Ymosodiadau Pont Llundain (2017)
Gwedd
| Enghraifft o: | ymosodiad terfysgol â cherbyd, stabio, llofruddiaeth dorfol |
|---|---|
| Dyddiad | 3 Mehefin 2017 |
| Lladdwyd | 11 |
| Rhan o | terfysgaeth yn y Deyrnas Gyfunol, terfysgaeth Islamaidd yn Ewrop |
| Lleoliad | Pont Llundain, Borough Market |
![]() | |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Rhanbarth | Llundain |
| Dynodwyr | |
Ar 3 Mehefin 2017 gynhaliwyd digwyddiad terfysgaeth ar Bont Llundain, Lloegr. Gyrrwyd fan yn fwriadol i mewn i gerddwyr ar y bont cyn cael damwain ger Afon Tafwys. Yna rhedodd y tri theithiwr i ardal Borough Market a dechrau trywanu pobl mewn ac o amgylch bwytai a thafarndai. Roedd yr ymosodwyr yn Islamyddion a ysbrydolwyd gan Islamic State (ISIS).[1] Fe'u saethwyd gan swyddogion Heddlu Dinas Llundain a chanfuwyd eu bod yn gwisgo festiau ffrwydrol ffug.[2] Lladdwyd wyth o bobl a chafodd 48 eu hanafu, gan gynnwys aelodau o'r cyhoedd a phedwar plismon a geisiodd atal yr ymosodwyr.
