Y celfyddydau graffig

Oddi ar Wicipedia

Enw ar gelfyddydau gweledol sydd yn defnyddio llinell a lliw mewn cyfrwng dau ddimensiwn, hynny yw graffeg, yw y celfyddydau graffig. Maent yn cynnwys dulliau traddodiadol megis paentio, darlunio, printio, a lluniadaeth yn ogystal â chyfryngau newydd fel ffotograffiaeth a graffeg gyfrifiadurol. Gallai celf graffig fod yn enghraifft o'r celfyddydau cain neu addurnol, neu at ddiben ymarferol, gan gynnwys teipograffeg a chynlluniau pensaernïol.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Graphic art. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Hydref 2020.