Y Record Las (albwm)
Gwedd
Y Record Las | ||
---|---|---|
Albwm stiwdio | ||
Rhyddhawyd | Ebrill 2013 | |
Label | Recordiau Lliwgar |
Albwm aml-gyfrannog gan artistiaid Cymraeg yw Y Record Las. Rhyddhawyd yr albwm yn Ebrill 2013 ar y label Recordiau Lliwgar.
Y Record Las oedd ail gyhoeddiad Recordiau Lliwgar, (Y Record Goch oedd y cyntaf). Fe gafodd y record dipyn o sylw cyn ei rhyddhau diolch yn bennaf i ‘Celwydd’ gan Ifan Dafydd sydd wedi’i chwarae dros 200,000 o weithiau ar Soundcloud erbyn hyn. Mae hon hefyd yn cynnwys traciau Cymraeg cyntaf H. Hawkline, prosiect Euros Childs, Ymarfer Corff, a dwy gân gan greawdwyr hip-hop Cymraeg, Llwybr Llaethog.
Dewiswyd Y Record Las yn un o ddeg albwm gorau 2013 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]