Y Goleuedigion

Oddi ar Wicipedia

Mae nifer o ddamcaniaethau cydgynllwyniol modern yn honni bod gan grŵp o'r enw y Goleuedigion neu'r Illuminati ddylanwad a rheolaeth eang dros faterion y byd gyda'r nod o sefydlu Trefn Byd Newydd. Mae'r damcaniaethau hyn yn tarddu o Oleuedigion Bafaria, cymdeithas gyfrinachol a sefydlwyd yn ystod yr Oleuedigaeth. Mae'r damcaniaethau'n dadlau taw parhâd neu atgyfodiad o'r gymdeithas hon yw'r Goleuedigion modern. Caiff nifer o'r damcaniaethau hyn eu cysylltu â damcaniaethau eraill am grwpiau a honnir i reoli'r byd, gan gynnwys y Seiri Rhyddion, yr Iddewon, Marcswyr, Cynhadledd Bilderberg, y Council on Foreign Relations, a Bohemian Grove.

Llywodraeth yr Unol Daleithiau[golygu | golygu cod]

Llygad Rhagluniaeth ar ben pyramid, arwyddlun sy'n ymddangos ar bapur $1 yr Unol Daleithiau.

Mae damcaniaethwyr cydgynllwyniol yn aml yn cyhuddo arweinwyr gwleidyddol yr Unol Daleithiau, gan gynnwys nifer o arlywyddion y wlad, o fod yn aelodau o'r Goleuedigion.

Mae arwyddlun o Lygad Rhagluniaeth ar ben pyramid yn ymddangos ar wrthwyneb Sêl Fawr yr Unol Daleithiau, ac ar y papur $1. Hen symbol grefyddol yw'r Llygad, sy'n cynrychioli Duw yn gwylio dros y ddynolryw, ac mae'r pyramid yn cynrychioli'r Unol Daleithiau, a obeithir gan y Sefydlwyr i bara mor hir â Phyramidau'r Aifft. Uwchben ceir y testun annuit cœptis (Lladin am "gymeradwyir yr ymgymeriadau") ac o dan y pyramid, novus ordo seclorum (Lladin am "drefn newydd yr oesoedd"). Ar waelod y pyramid ceir y rhifolion Lladin MDCCLXXVI, sef 1776, dyddiad Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau. Yn ôl cefnogwyr y ddamcaniaeth gydgynllwyniol, mae'r arwyddlun yn dystiolaeth o reolaeth y Goleuedigion dros yr Unol Daleithiau: mae'r Llygad ar ben y pyramid yn symbol o'u goruchafiaeth; mae'r testun uwchben y pyramid yn dathlu eu buddugoliaeth dros y bobl gyffredin ac mae'r testun o dan y pyramid yn awgrymu Trefn Byd Newydd, ac mae'r rhifolion yn dynodi blwyddyn sefydlu Goleuedigion Bafaria.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]