Y Goleudy
Enghraifft o'r canlynol | cyfres deledu |
---|---|
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Dechreuwyd | 19 Rhagfyr 2022 |
Cyfres ddrama ffuglen wyddonol ar S4C yw Y Goleudy.
Ynghylch
[golygu | golygu cod]Mae'r gyfres yn ddrama sci-fi sy'n cynnwys chwe phennod o 30 munud yr un. Mae'r gyfres wedi'i hanelu at blant 10 oed, ac wedi'i lleoli mewn pentref syrffio glan môr yng ngorllewin Cymru.[1] Mae merch ifanc, Efa, yn symud i bentref tawel Brynarfor ac yn archwilio'r goleudy lleol.[2]
Cynhyrchiad
[golygu | golygu cod]Ym mis Mai 2021 cyhoeddwyd y byddai Cronfa Cynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc y DU yn darparu cyllid ar gyfer y gyfres i’w chynhyrchu gan Boom Cymru ar gyfer S4C. Ariennir y gronfa gan lywodraeth y DU ac fe'i rheolir gan Sefydliad Ffilm Prydain.[3]
Mae'r gyfres ddrama ffuglen wyddonol wedi'i hanelu at blant hŷn ac fe'i symudwyd i gynhyrchu ar gyfer haf 2022 ar ôl cael ei gohirio yn ystod y pandemig covid.[4][5]
Darlledwyd y gyfres gyntaf ar 19 Rhagfyr 2022.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Latest projects supported through Young Audiences Content Fund announced". BFI (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-13.
- ↑ 2.0 2.1 "Y Goleudy, TV". tv24.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-13.
- ↑ "Y Wasg | S4C". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 13 Ebrill 2023.
- ↑ "Programme Policy Statement 2022–23 (and Policy review 2021–22)" (PDF). S4C.
- ↑ "Y Goleudy (TV Series)". Radio Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Chwefror 2023.