Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal

Oddi ar Wicipedia
Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
Sefydlwyd2003 (2003)
MathRheoleiddiwr statudol
PwrpasDiogelu'r cyhoedd
Rhanbarth
Deyrnas Unedig
Membership
344,427
Mam-gwmni
Awdurdod Safonau Proffesiynol
Gwefanhcpc-uk.org

Rheoleiddiwr statudol ar gyfer dros 344,000 i weithwyr proffesiynol o dros 16 o wahanol swyddi gofal ac iechyd yn y Deyrnas Unedig yw'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.[1] Mae'r Cyngor yn adrodd mai ei brif ddiben yw diogelu'r cyhoedd. Mae'n gwneud hyn drwy osod a chynnal safonau gallu ac ymddygiad ar gyfer y gweithwyr mae'n eu rheoleiddio.[2] Mae ei brif weithrediadau'n cynnwys cymeradwyo rhaglenni addysg a hyfforddi y mae'n rhaid i weithwyr gofal eu cwblhau cyn gallant gofrestru â'r Cyngor; a chynnal a chyhoeddi Cofrestr o ddarparwyr gofal ac iechyd sy'n bodloni gofynion proffesiynol a safonau ymarfer sydd wedi'u pennu eisoes.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal yn 2003 o dan y Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002.

Caiff gwaith y Cyngor a rheoleiddwyr proffesiynau iechyd eraill yng ngwledydd Prydain eu goruchwylio gan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol.

Cynnal safonau[golygu | golygu cod]

Os nad yw gweithiwr proffesiynol sydd wedi cofrestru â nhw yn bodloni'r safonau sydd wedi'u gosod, gall y Cyngor gymryd camau a all gynnwys atal unigolyn rhag arfer.[3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. HCPC - Health Professions Council [1]. Adalwyd 13 Awst 2012.
  2. Health and Care Professions Council: About Us - http://www.hcpc-uk.org/aboutus/. Adalwyd 13 Awst 2012.
  3. "Complaints". Health and Care Professions Council. Cyrchwyd 2 Awst 2014.