Wolmar Schildt

Oddi ar Wicipedia
Wolmar Schildt
GanwydWolmar Styrbjörn Schildt Edit this on Wikidata
31 Gorffennaf 1810 Edit this on Wikidata
Laukaa Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mai 1893 Edit this on Wikidata
Jyväskylä Edit this on Wikidata
Man preswylVuontee Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUchel Ddugiaeth y Ffindir Edit this on Wikidata
Addysgdoethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Royal Academy of Turku
  • Prifysgol Helsinki Edit this on Wikidata
Galwedigaethmeddyg, ysgrifennwr, gwleidydd, cyhoeddwr, Provincial Doctor, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Swyddmember of the Diet of Finland, municipal councillor in Finland Edit this on Wikidata
PlantOnni Schildt, Aatos Schildt Edit this on Wikidata
PerthnasauErik Alexander Ingman, Gustaf Tigerstedt Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Sant Anna, 3ydd Dosbarth, Q62732058, Q121558491 Edit this on Wikidata
Wolmar Schildt

Meddyg ac awdur (dan y ffugenw Volmari Kilpinen) o'r Ffindir oedd Wolmar Styrbjörn Schildt (31 Gorffennaf 1810 yn Laukaa – 8 Mai 1893 yn Jyväskylä).[1]

Cymhwysodd Schildt fel meddyg ym 1840 a bu'n feddyg cefn gwlad yn Saarijärvi ac yna yn ardal Jyväskylä rhwng 1839 a 1888. Roedd yn adnabyddus yn bennaf am ei ymdrechion i wneud y Ffinneg yn iaith ddiwylliannol ac i greu dosbarth Ffinneg diwylliedig. Ymhlith y mentrau a gychwynnodd, sefydlodd yr ysgol ramadeg Ffinneg gyntaf ym 1858 yn ninas Jyväskylä. Roedd hefyd yn hoff o greu termau newydd yn yr iaith Ffinneg. Bathodd tua 500 o eiriau diwylliannol Ffinneg ac mae rhyw 100 yn cael eu defnyddio yn yr iaith nawr, er enghraifft, tiede "gwyddoniaeth, celfyddyd", taide "celf", kirje "llythyr", yksilö "unigolyn", esine "gwrthrych", henkilö "person, ffigwr", kirjailija "awdur", oppilas "disgybl", yleisö "cynulleidfa, cyhoedd", sairaala "ysbyty", vankila "carchar". Cyfieithodd Elfennau Euclid i'r Ffinneg (1847) hefyd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Forsius, Arno. "Wolmar Schildt (-Kilpinen) (1810—1893) — lääkäri ja suomalaisuusmies". Julkaistu aikaisemmin Lääkärilehdessä 1993. Ihmisiä lääketieteen historiassa. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-09-01. Cyrchwyd 10 Mehefin 2019. Italic or bold markup not allowed in: |work= (help) (Ffinneg)