William Edmond Logan
Gwedd
| William Edmond Logan | |
|---|---|
| Ganwyd | 20 Ebrill 1798 Montréal |
| Bu farw | 22 Mehefin 1875 Sir Benfro |
| Dinasyddiaeth | Canada |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | daearegwr, daearyddwr |
| Gwobr/au | Marchog Faglor, Medal Wollaston, Pobl o Bwys Hanesyddol Cenedlaethol |
Daearegwr o Ganada oedd Syr William Edmond Logan (20 Ebrill 1798 – 22 Mehefin 1875).[1]
Ganwyd ym Montréal, Cwebéc, i rieni o'r Alban. Cafodd ei addysgu ym Mhrifysgol Caeredin, a dechreuodd weithio i'w ewythr yn Llundain yn 1818. Yn y gwaith hwn, o 1831 i 1838, efe oedd yn gyfrifol am reoli pyllau glo a mwyndoddfa copr ger Abertawe, ac yno fe fagodd ddiddordeb mewn daeareg tra'n llunio mapiau'r maes glo.
Penodwyd Logan yn gyfarwyddwr cyntaf Arolwg Daearegol Canada yn 1842, a daliai'r swydd honno hyd iddo ymddeol yn 1869. Cyhoeddodd ei adroddiad enfawr ar ddaeareg Canada yn 1863. Bu farw yng Nghastell Malgwyn, ar y ffin rhwng Ceredigion a Sir Benfro, yn 77 oed.
Enwir Mynydd Logan, mynydd uchaf Canada, ar ei ôl.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) William Edmond Logan. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Mehefin 2018.