William Ames

Oddi ar Wicipedia
William Ames
Ganwyd1576 Edit this on Wikidata
Ipswich Edit this on Wikidata
Bu farw14 Tachwedd 1633 Edit this on Wikidata
Rotterdam Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdiwinydd, athronydd, academydd Edit this on Wikidata
SwyddQ20895248 Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Franeker Edit this on Wikidata

Diwinydd Piwritanaidd ac athronydd naturiol o Sais oedd William Ames (157614 Tachwedd 1633). Mae'n nodedig am arddel Calfiniaeth gaeth yn y ddadl Arminaidd.[1]

Ganwyd yn Ipswich, Suffolk, yn fab i farsiandïwr cefnog o'r enw William Ames a'i wraig Joan Snelling. Bu farw ei rieni yn ystod ei fachgendod, a chafodd ei fagu gan ei ewythr Robert Ames yn Rhydychen. Fe'i derbyniwyd yn "bensiynwr" yng Ngholeg Crist, Caergrawnt, yn 1593 neu 1594. Enillodd ei radd baglor yn y celfyddydau yn 1597 neu 1598 a'i radd meistr yn y celfyddydau yn 1601. Gweithiodd yn gymrawd yng Ngholeg Crist o 1601 i 1610, a bu'n arddel safbwyntiau diwinyddol dadleuol ei diwtor, y Piwritan William Perkins (1558–1602), ac am hynny fe gafodd ei ddiarddel o Gaergrawnt yn 1609.[2]

Pregethodd am dro yn Colchester, ond bu'n rhaid iddo ymfudo i'r Iseldiroedd yn 1610 o ganlyniad i wrthwynebiad George Abbot, Esgob Llundain. Daliodd swyddi clerigol yn Leiden a'r Hâg, a fe'i benodwyd yn gaplan i Syr Horace Vere, Llywodraethwr Brielle. Priododd Ames â merch John Burgess, Piwritan arall a wasanaethodd yn gaplan i Vere cyn i Ames gymryd y swydd. Ni chawsant blant, a bu farw ei wraig yn fuan wedi'r briodas. Ames oedd un o gynghorwyr y Calfiniaid yn Synod Dordrecht (1618), ac o ganlyniad i'w ran yn y ddadl yn erbyn Arminiaeth fe enillodd enw iddo'i hun ar draws yr Iseldiroedd. Yn 1622 fe'i penodwyd yn athro diwinyddiaeth Prifysgol Franeker yng Ngorllewin Ffrisia, ac yn ddiweddarach yn rheithor y brifysgol o 1626 i 1632. Yn ystod y cyfnod hwn, ysgrifennodd y mwyafrif o'i weithiau am ddiwinyddiaeth, athroniaeth naturiol, a moeseg Gristnogol, gan gynnwys Medulla Theologiae (1632) a De Conscientia et Ejus Jure vel Casibus (1632).[2][3]

Yn niwedd y 1620au bwriadodd ymfudo i Loegr Newydd, ond yn y pen draw penderfynodd aros yn yr Iseldiroedd. Gadawodd Franeker yn 1633 i gymryd swydd gweinidog a darlithydd i'r gynulleidfa Seisnig yn Rotterdam. Yn fuan wedi iddo gyrraedd y ddinas, boddwyd ei dŷ a bu farw o dwymyn. Yn 1637 aeth ei weddw, Joan Fletcher Ames, a'u tri phlentyn i Loegr Newydd.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. L. John Van Til (1972). Liberty of Conscience: The History of a Puritan Idea (yn Saesneg). Craig Press. t. 59.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) "Ames, William" yn Complete Dictionary of Scientific Biography (Charles Scribner's Sons, 2008). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 22 Awst 2019.
  3. (Saesneg) William Ames. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Awst 2019.