Wicipedia:Wicibrosiect Cyfoethogi erthyglau
Mae'r prosiect yma'n deillio o edafedd a gafwyd yn y Caffi: '1,000 erthygl pwysicaf. Y Gymraeg yn 83ydd'.
Y bwriad yw cyfoethogi'r cynnwys ar y 1,000 erthygl bwysicaf (yn ol Meta!) Mae'r rhestr yma o ieithoedd, ar Meta yn nodi swmp 1,000 o erthyglau ym mhob iaith, gan roi sgor iddyn nhw! Ym Mawrth 2021, ar gychwyn y prosiect, roedd y Gymraeg yn 83ydd; erbyn diwedd y flwyddyn roedd yn 62fed. Yr ochr arall i'r geiniog mae'r ddadl bod angen mwy o erthyglau arnom, ac mai ychydig o bobl sydd angen erthygl hirfaith dros 30 kb.
Y rheswm pennaf pam fod sgor y Gymraeg yn gymharol isel yw bod cymaint o egin erthyglau gennym ni (889 ar gychwyn y prosiect), a dim ond llond dwrn o erthyglau hir (dros 30kb)! Egin, yn eu llygad nhw, ydy unrhyw erthygl gyda llai na 10,000kb. Erthyglau gyda dros 30kb sy'n dod a'r sgor ucha.
- Stats achlysurol
Dyddiad | Eginyn | > 10kb | >30kb | Sgor | Safle |
---|---|---|---|---|---|
1 Mawrth 2021 | 889 | 136 | 10 | 14.94 | 83ydd |
5 Ebrill | 854 | 136 | 16 | 16.53 | 78fed |
6 Hydref | 801 | 159 | 40 | 19.97 | 69fed |
6 Tachwedd | 785 | 156 | 58 | 21.46 | 66ed |
6 Rhagfyr | 763 | 165 | 72 | 23.01 | 63ydd |
5 Chwefror 2022 | 732 | 164 | 104 | 25.82 | 59fed |
4 Ebrill | 722 | 161 | 117 | 26.88 | 58fed |
6 Mehefin | 697 | 154 | 149 | 29.49 | 56ed |
Byddai medru cael tabl otomatig o'r erthyglau sydd a llai na 10kb yn cael ei greu'n fyw (on the fly) yn beth da (syniad @Cwmcafit:).
Cwbwlhawyd:
- Daearyddiaeth: Llywelyn000
- Mathemateg: Llywelyn2000: Llywelyn000
- Crefydd: Llywelyn000
Ar y gweill:
- Bioleg: Organebau - Llywelyn2000
- ychwanegwch / bachwch eich byd!