Wicipedia:Wici Cymru/Cofnodion 4 Medi

Oddi ar Wicipedia

Cofnodion 4 Medi, Awelon, Rhuthun.

Yn bresennol
Martin, Huw, Les, Robin, Aled.
1. Ymddiheuriadau

Phil, Llinos, Elfed, Gwyn

Yn absenoldeb Elfed, cymerodd Martin y gadair.

2. Cofnodion 22 Gorffennaf 2013
  • Derbyniwyd y cofnodion a chytunwyd eu bont yn gywir.
3. Materion yn codi o'r Cofnodion
  • Trafodwyd: Derbyn Polisiau WMUK yn eu cyfanrwydd.
  • Penderfynwyd: RO i ddanfon dolennau at y polisiau hanfodol, gan eu trafod yn y cyfarfod nesaf.
  • Gan nad yw'r arian yn ei le i dalu, ni chysylltwyd gyda Lilwen / Gwen (teipio'r Cyfansoddiad Elusen)
4. Adroddiad y Rheolwr
  • Cafwyd adroddiad ar lafar hefyd am rai agweddau ychwanegol.
  • Derbyniwyd yr adroddiad.
5. Elusen
  • Arwyddwyd y ddogfen gofrestru; RO i sicrhau fod y darpar-ymddiriedolwyr hefyd yn arwyddo. RO i'w ddanfon at y sefydliad priodol.
6. Swydd Cydgordiwr
  • Penderfynwyd peidio a phenodi hyd nes ein bod wedi cofrestru fel elusen.
  • RO i greu Disgrifiad Swydd a Hysbyseb yn barod.
7. Materion ariannol
  • Edrychwyd ar y llif arian a chadarnhawyd y swm ar gyfer y Cydlynydd Hyfforddi.
  • Trafodwyd dulliau amrywiol a'r ddau grant gan Lywodraeth Cymru a'u dull gwahanol o dalu: 1. Geovation yn dilyn Anfoneb a 2. DTBF yn dilyn y Dderbyneb.
8. Unrhyw fater arall
  • Copi o'r Anfoneb a ddanfonwyd at GeoVation i Huw.
  • Diolchodd RO i Eleri am ei gofal a'i chyngor gyda'r ochr ariannol.
Dyddiad y cyfarfod nesaf
2 Hydref 2013.