Wicipedia:Wici Cymru/Cofnodion 4 Mawrth, 2014

Oddi ar Wicipedia
1. Croeso ac ymddiheuriadau
Yn bresennol: Elfed (cadair), Huw (trysorydd), Les, Aled a Robin (Rheolwr)
Ymddiheuriadau: Phil Jonathan
Yn absenoldeb Phil, cymerwyd y cofnodion gan Robin.
2. Derbyniwyd y cofnodion diwethaf
3. Materion yn codi o'r cofnodion
Cofnodion cyfarfod Brynhyfryd yn Nhachwedd i'w roi ar wici
Ffeil Word yn ogystal ag Open Office
4. Adroddiad y Rheolwr
5. Materion yn codi o'r adroddiad
Cais CCF: cytunwyd i'w drafod yn y cyfarfod nesaf
Elfed a Robin yn cyfarfod Mike Peel fory. Trafodwyd y systemau a oedd yn eu lle i atal taliadau dwbwl, gan fod WMUK hefyd yn talu rhai costau.
6. Y cais i gael ein cofrestru fel elusen
Nododd Elfed i'n cais gwreiddiol fod yn aflwyddiannus gan ei fod yn canolbwyntio ar y budd i'r Gymraeg a chynnwys agored yn hytrach na'r budd i bobl Cymru, ac oherwydd fod ein hamcanion yn rhy agos i WMUK (yr union rai!). Penderfynwyd gwneud cais am fod yn Gwmni Di-elw Cyfyngedig, ac y byddai'r Co-op yn ein cynorthwyo.
7. Gwefan Wici Cymru
Dywedodd Aled ei fod wedi derbyn y cyfrinair. Trafodwyd eto'r pwysigrwydd i hwn fod yn gyfoes ac yn lliwgar. Diolchwyd i Rhys Wynne am ei waith.
8. Penodi
a. Cydlynydd Hyfforddi Wici Cymru: Aled Powell wedi cychwyn 1 Chwefror, 2014.
b. Cydlynydd Wicipedia yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: wedi'i benodi ond heb dderbyn cytundeb gan y Coleg hyd yma. Bydd yn cychwyn ar 17 Mawrth 2014.
9. Wici Rhuthun
Pethau'n symud yn sydyn yn y dyddiau diwethaf.
10. Ar y gweill
a. Llywodraeth Cymru a Lawrence Lessig
b. Y Llyfrgell Genedlaethol
c. Yr Arolwg Ordnans
11. Pwyntiau gweithredu
Robin i gysylltu efo Mike Smith, Canolfan Cydweithredol Cymru
12. Unrhyw fater arall
Ffurflenni costau
13. Dyddiad y cyfarfod nesaf
2 Ebrill 2014