Wicipedia:Wici Cymru/Cofnodion 2 Hydref 2013

Oddi ar Wicipedia

Cofnodion 2 Hydref; Wetherspoons, Rhuthun.

Yn bresennol
Elfed (Cadair), Huw (Trysorydd), Phil (Ysgrifennydd), Robin (Rheolwr), Aled, Gwyn a Les.
1. Ymddiheuriadau

Llinos, Martin Is-Gadeirydd), Tom, Rhys ac Eleri.

Derbyniwyd y cofnodion
Adroddiad y Rheolwr

Cafwyd adroddiad ysgrifenedig ac ar lafar gan y Rheolwr

Y Coleg Cymraeg

Trafodwyd y datblygiadau diweddaraf a chafwyd sêl bendith y pwyllgor arnynt.

WiciAddysg; Tachwedd 1 a 2 yng Nghaerdydd

Trafodwyd yr enwau posibl i draddodi'r anerchiad agoriadol

Cynghrair Meddalwedd Cymru

Cytunwyd i fynd ymlaen gyda'r bartneriaeth

Materion ariannol

Adroddwyd fod y drefn ariannol yn eu lle gyda'r canlynol yn gwiro'r wybodaeth: Huw (Trysorydd), Terry (Gweinyddwr) ac Eleri (Trysorydd Ymgynghorol)

Materion eraill
  • Paratoi datganiad i'r wasg ar ddau o'r materion uchod a chael cyngor gan Gwmni marchnata / PR
  • Trefnu noson hyfforddi mewn ystafell TG pwrpasol
  • Anrhydeddu Rhys Ifans
  • Yswiriant a phenodi cyfriwyr siartredig. Dim gwrthwynebiad i'r cwmni lleol a gyflwynodd amcanbris
  • Cyflwynwyd y targedau a gyflawnwyd hyd yma:

Llythyrau’n cefnogi • Derbyniwyd 32 gohebiaeth gadarnhaol

Llythyr hysbysu • Danfonwyd 30 llythyr dwyieithog yn hysbysu pob cyngor sir o apwyntiad y Rheolwr • Atodwyd crynodeb o’r prosiect

Disgrifiadau swydd • Rheolwr prosiect • Cydlynydd prosiect • Gweinyddwr

Y Maes llafur hyfforddi • Crewyd maes llafur i’w ddefnyddio • Hyfforddwyd 10 grwp

Fideos hyfforddi arlein • 25 fideo wedi’u gosod ar Wikimedia Commons (10 hefyd ar You Tube)

Cynghrair Meddalwedd Cymru - Software Alliance Wales • Cytunwyd mewn egwyddor • Drafftiwyd cytundeb ffurfiol • Lluniwyd maes llafur hyfforddi’r hyfforddwyr

6,000 o daflenni dwyieithog ar sgiliau wici • Logo LlwybrauByw! LivingPaths! wedi’i greu • Y daflen wedi’i pharatoi (un rhan am y Golygydd Gweladwy angen ei gadarnhau)

Y pyrth / mynediad • Lansiwyd y porth Cymraeg • Lansiwyd y porth Saesneg • Crewyd erthyglau ar wahân ar 16 islwybr • 3 llwybr lleol ar bob un o'r islwybrau • Sicrhawyd a datblygwyd LivingPaths.org • Cyfeiriwyd LlwybrauByw.org at y Porth Gymraeg

Cynhadledd Destination Management Wales • Cynrychiolaeth ac adborth llawn

Adroddiad ar Ddichonolrwydd • 160 tudalen


Dyddiad y cyfarfod nesaf
6 Tachwedd