Wicipedia:Wici Cymru/Cofnodion 22 Gorffennaf 2013
- Presennol
Elfed Williams (Cadair), Les Barker, Martin Evans-Jones, Gwyn Williams, Robin Owain ac Eleri James (Skype).
- Ymddiheuriadau
Huw Williams (Trysorydd), Phil Jonathan (Ysgrifennydd),
- 1. Penodi Rheolwr Wicimedia UK yng Nghymru
Llongyfarchwyd Robin ar gael ei benodi i staff Wikimeda ac ar secondiad i Wici Cymru.
- 2. Y Cofnodion
Derbyniwyd yn gywir.
- 3. Ffurfio elusen
Awgrymwyd ebostio darpar ymddiriedolwyr gyda'r manylion personol sydd ei angen. Trafodwyd cyflogi clerc i deipio'r cyfansoddiad newydd ac awgrymwyd fod RO yn cysylltu gyda Lilwen neu Gwen E.
- 4. Adroddiad y Rheolwr
Derbyniwyd. Ategwyd fod gwaith mawr wedi'i gyflawni hyd yma.
- 5. Llwybrau Byw!
Trafodwyd y cynlluniau sydd ar y gweill ac adroddwyd i'r hyfforddiant cyntaf gael ei wneud yn Nhrefynwy ar 20 Gorffennaf. Amlinellwyd y gwaith oedd i'w wneud. Awgrymwyd rhoi'r targedi a'r hyn sydd wedi'i wneud yn Adroddiad nesaf y Rheolwr.
- 6. Dywedodd Martin iddo arwydd dogfen yn Llundain, fel Is-gadeirydd, yn swyddfa Wikimedia.
- 7 Derbyniwyd gohebiaeth gan Rhys parthed y wefan newydd.
Cyfarfod nesaf: